Avsnitt
-
Mae’r iaith Gymraeg wedi wynebu sawl her a chyfnod anodd. Felly sut y gwnaeth hi oroesi? Dewch ar daith drwy'r canrifoedd i ddysgu mwy...
Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
-
Ym 1797 fe wnaeth Ffrainc ymosod ar Brydain, ond roedd menyw ddewr o Abergwaun yn barod amdanyn nhw.Pe bai ymosodiad Ffrainc wedi bod yn llwyddiannus, fe allai hanes Cymru a Phrydain wedi bod yn wahanol iawn.Cobler oedd Jemima Nicholas, a phan glywodd bod deuddeg milwr o Ffrainc gerllaw fe aeth i’w herio gyda dim byd ond fforch wair...
Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
-
Saknas det avsnitt?
-
Mae hanes Cymru yn llawn arwyr cofiadwy, ac mae’n bosib mai dyma’r mwyaf enwog ohonyn nhw i gyd...Dewch yn ôl 800 mlynedd i gyfarfod Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Ai ef ddylai ennill Arwr-ffactor Hanes Mawr Cymru?!
Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
-
Croeso i barti mwyaf y flwyddyn! Mae traddodiad barddol Cymru yn chwedlonol, a phob mis Awst daw miloedd at ei gilydd i gystadlu a chymdeithasu. Ond wyddoch chi fod yr arfer yma’n mynd yn ôl canrifoedd?O Eisteddfodau bach lleol i’r digwyddiadau mawr sy’n gyfarwydd i ni heddiw, dyma hanes sy’n llawn gwisgoedd a chymeriadau lliwgar.Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
-
Pwy oedd Merched Beca a beth oedd yr helynt mawr?Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bywyd yn galed iawn yng nghefn gwlad Cymru.Roedd ffermwyr yn rhentu eu ffermydd, ac roedd gan y bobl oedd yn berchen y tir ddylanwad mawr ac arian a threthi.Ond pan gafodd tollbyrth eu gosod ar ffyrdd, fe benderfynodd y werin bobl wrthryfela...
Awdur: Llinos MaiCynorthwydd sgript: Siân Rhiannon WilliamsCynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)Dylunio: Hefin Dumbrill
-
Roedd pyllau glo yn llefydd tywyll a pheryglus a’r gwaith yn galed iawn. Ond fe gafodd y diwydiant effaith enfawr ar Gymru a gweddill y byd.Fe wnaeth cymunedau ffurfio yng nghymoedd y De-ddwyrain a daeth pobl o wahanol rannau o’r byd i fyw a gweithio ym mhorthladdoedd y dinasoedd mawr, ble roedd y glo yn cael ei allforio.Ond er mai pobl gyffredin wnaeth adeiladu’r diwydiant, roedd llawer o’r elw wedi diflannu o’u cymunedau erbyn i oes y pyllau glo ddod i ben.
Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
-
Llinos Mai sy’n cyflwyno cynulleidfa ifanc i Hanes Mawr Cymru!
Tanysgrifiwch nawr i glywed y gyfres gyfan yn syth.