Avsnitt
-
Sgwrs rhwng y comedïwr Elis James a'r hanesydd yr Athro Prys Morgan. Beth oedd cyfraniad unigolion a chymdeithasau Cymreig ym mhrif ddinas Lloegr ar iaith a diwylliant Cymru ar hyd yr oesau? Pa mor hir fydd hi'n gymeryd i'r iaith Gymraeg golli rheolau treiglo? A sut mae rhedeg y ferf ' skidaddle’?
-
Elis James yn sgyrsio gyda'r comediwraig Esyllt Sears am ddwyieithrwydd.
-
Saknas det avsnitt?
-
Elis James sy'n sgwrsio gyda'r DJ Huw Stephens.
-
Sgwrs rhwng Elis James a'r gohebydd seneddol a'r awdur Elliw Gwawr.
Mae'r ddau'n trafod cefndir ieithyddol Elliw a fagwyd ar aelwyd Gymraeg ond sydd bellach yn byw yn Essex ac yn trio magu plentyn dwyieithog yn ne ddwyrain Lloegr.
Clywn am y penderfyniadau ieithyddol bwysig wrth sgwennu llyfrau coginio poblogaidd, ac am yr her o gyfathrebu'n glir ar y teledu a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol wrth ohebu mewn cyfnod gwleidyddol cythryblus. -
Sgwrs rhwng y comedïwr Elis James a chomisiynydd comedi Radio 4, Sioned Wiliam.
Mae'r ddau yn trafod magwraeth ieithyddol Sioned yn y Bari, a sut mae wedi llwyddo i fagu mab sy'n Gymro Cymraeg yng nghanol Llundain.
Clywn am yrfa ddisglair Sioned yn gweithio gyda mawrion y byd comedi o Steve Coogan i Jonathan Ross, ac ar rai o gyfresi comedi ac adloniant fwyaf dylanwadol y degawdau diwethaf, ynghyd a'r nofelau Cymraeg mae wedi bod yn 'sgwennu yn y blynyddoedd diweddar. -
Y cerddor Gruff Rhys yw gwestai cyntaf y gyfres.
Mae'r ddau yn trafod magwraeth ieithyddol Gruff, dylanwad y cyfnod pan fu'n astudio yn Barcelona, ac effaith iaith a dwyieithrwydd ar ei gyfansoddi, ei waith creadigol a'i fywyd teuluol. -
Elis James sy'n archwilio’r ffordd mae iaith yn allwedd i ddiwylliant.